Sioned Gwen Davies
Mezzo-Soprano
English

”Good fun and sturdy voice”
The Guardian

”... an exuberant Olga”
The Telegraph

”... a vivacious Olga”
Bachtrack


Mae Sioned Gwen Davies yn wreiddiol o Fae Colwyn yng ngogledd Cymru. Astudiodd yn y Stiwdio Opera Genedlaethol ac Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall trwy gefnogaeth hael Opera Glyndebourne a ddarparodd iddo Wobr Datblygu Artist Ifanc, a Gwobr Datblygu Gyrfa Sefydliad Bryn Terfel.


Sioned oedd cynrychiolydd Cymru yng nghystadleaeth BBC Canwr y Byd, Caerdydd 2017, yn yr un flwyddyn fe berfformiodd ran yr Ail Ferch yn Y Ffliwt Hud gyda cwmni Opera Longborough a dirprwyodd ran Edugie yn Rodelinda gyda Opera Cenedlaethol Lloegr.

Yn 2018 mae hi wedi bod yn brysur yn gweithio gyda Cwmni Opera’r Alban yn y rhannau Stewardess, Flight; Olga, Eugene Onegin a Maddalena, Rigoletto.

Yn 2016 perfformiodd ran y Drydedd Nymff yn Rusalka a rhan Pitti-Sing yn Y Micado y naill a’r llall ar gyfer Opera’r Alban. Perfformiodd y brif ran yn Carmen Bizet mewn addasiad Cymraeg gan Opera Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015. Ymunodd ag Opera’r Alban yn 2013 er mwyn perfformio rhan Kate mewn taith genedlaethol o The Pirates of Penzance a daeth yn Artist sy’n dod i Amlygrwydd yn ystod 2013/14 gydag Opera'r Alban gan berfformio rhannau Eduige yn Rodelinda Handel a’r Drydedd Wrach ym Macbeth, Verdi ar gyfer y Cwmni. Perfformiodd ran Margarida yn The Yellow Sofa ar gyfer Prosiect Jerwood Opera Glyndebourne ac hefyd ar daith yr hydref yn ystod 2012, gan ddychwelyd unwaith eto yn 2014 er mwyn perfformio rhannau Olga yn Eugene Onegin ac Annina yn La traviata.

Mae wedi cael llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau yn cynnwys y wobr gyntaf yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2009, y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 a dyfarnwyd iddi wobr y perfformiwr mwyaf trawiadol yng Ngwyl Gogledd Llundain 2009. Yn ogystal mae wedi cyrraedd y rownd gynderfynol Gwobrau Kathleen Ferrier a rownd derfynol Gwobrau Lleisiol The Jackdaws Great, Gwobr Thelma King, MOCSA a chystadlaethau Canwr Cymreig Ifanc Cymry Llundain.

Mae ei huchafbwyntiau mewn cyngherddau yn cynnwys Voices, Henze yn Neuadd y Barbican, Llundain, yr unawd Alto yn Les Noces, Stravinsky yn yr LSO St. Luc, Llundain,
Messiah, Handel gyda Chôr siambr Lund yn Sweden a Serenade to Music Vaughan Williams i gyfeiliant Graham Johnson.
Perfformiodd yn yr Arddangosiad o leisiau Cymru Brynfest Bryn Terfel yng Nghanolfan y Southbank, Llundain a chael y fraint hefyd o ganu mewn cyngerdd ym mhresenoldeb ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru yng Nghastell Caerffili. Yn ddiweddar mae wedi perfformio’r unawd mezzo-soprano yn y perfformiad cyntaf yn unrhyw le yn y byd o’r gwaith newydd, Arctic Elegy gan Edward Andrew Jones yn Aberdeen. Yn ogystal mae wedi bod ar daith cyngherddau gyda Siambr o Gymru, Ensemble Cymru.
​

Picture
Picture
Picture
Picture
Picture

Unawdydd Gwâdd
Utilita Live from the Drive-in: Scottish Opera

14eg, 15fed, 27ain, 28ain Awst
Caeredin

Tessa
Gondoliers
Scottish Opera


Picture

nboydphotography
www.nadineboydphotography.com

Powered by Create your own unique website with customizable templates.