Hiraeth a Hunaniaith 

“Mae byw i ffwrdd o Gymru, yma yn yr Hen Ogledd mewn gwlad Geltaidd arall, wedi dyfnhau fy nghariad at fy mamwlad a’m hiaith. Wrth fyw a gweithio ymhlith diwylliant sy’n rhannu gwreiddiau tebyg, rwy’n teimlo’r cysylltiadau Celtaidd yn gryf, ond ar yr un pryd mae’n gwneud i mi werthfawrogi’n fwy nag erioed sain, rhythm a chynhesrwydd y Gymraeg. Mae pellter yn dod â phethau’n nes: mae’r caneuon, y geiriau a’r atgofion yn teithio gyda mi, ac ym mhob perfformiad rwy’n cario rhan o Gymru gyda mi. Yma yn yr Hen Ogledd a thu hwnt mae’r hiraeth hwnnw’n troi’n falchder — balchder yn yr iaith, yn y traddodiad, ac yn y ffaith fy mod yn gallu cynrychioli Cymru ble bynnag rwy’n byw.” 
Sioned

Bywgraffiad

Mae Sioned yn fezzo-soprano yn wreiddiol o Fae Colwyn, Gogledd Cymru, mae ei gyrfa hyd yn hyn yn amrywiol yn  gweithio gyda chwmnïau opera blaenllaw, gwyliau mawr a gweithiau newydd, gyda  diddordeb mawr yn gweithio ar repertoire na chlywir yn aml, gweithiau cyfoes a  gweithiau Cymraeg neu Gymreig. Yn y tymhorau diweddar mae wedi perfformio mewn  opera yn y Gymraeg gydag Opra Cymru, gan deithio ledled Cymru fel Olwen mewn opera newydd gan Gareth Glyn, Iwan Teifion Davies a Patrick Young, cyn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn Il Trittico. Mae hefyd wedi ymddangos yng nghynhyrchiad enwog Syr David McVicar o Il Trittico i Opera’r Alban, gan berfformio rhannau La Badessa a La Ciesca.

 

Yn dilyn adfywiad The Seal Woman gan Granville Bantock a Marjory Kennedy-Fraser gyda Scots Opera Project,  ail-greodd Sioned y rôl deitl yn Arran, West Kilbride, Gŵyl Draddodiadol Caeredin, Gŵyl Gelfyddydau Perth a Gŵyl Pitlochry, gan gadarnhau ei henw da fel dehonglydd grymus o repertoire prin a rhai a esgeuluswyd.

 


“Sioned Gwen Davies plays the cruel siren figure of Maddalena with a disturbing coldness that fuels the hideous chill and horror of the final act”

The Scotsman

Yn 2023–24 bu Sioned yn dirprwyo rhan Carmen i Opera’r Alban, a pherfformiodd y rôl hefyd gyda cherddorfa lawn ar gyfer perfformiadau ‘Access’ yn Glasgow, Caeredin, Inverness ac Aberdeen. Mae ei gwaith helaeth gydag Opera’r Alban hefyd yn cynnwys Meg Page yn Falstaff, Tessa yn The Gondoliers, Kalyba yn Utopia Ltd., Ail Ysgrifennydd i Mao yn Nixon in China, Maddalena yn Rigoletto, Olga yn Eugene Onegin, Stewardess yn Flight, Trydedd Foneddiges yn The Magic Flute, a’r Drydydd Dryad yn Rusalka. Dechreuodd berfformio gydag Opera’r Alban fel Artist Datblygol, lle’r oedd ei rolau’n cynnwys Eduige yn Rodelinda a’r Drydedd Wrach yn Macbeth.

Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gyda English National Opera fel Pitti-Sing yn The Mikado, a bu hefyd yn dirpwyo’r rôl Eduige yn Rodelinda. Ar gyfer Gŵyl Lammermuir bu’n dirprwyo’r rôl deitl yn Thérèse (Massenet) a’r rhan alto yn The Diary of the One Who Disappeared gan Janáček.

Gwnaeth Sioned ei debut operatig broffesiynol yng Ngŵyl Opera Glyndebourne fel Margarida yn The Yellow Sofa (Prosiect Jerwood), gan berfformio yn yr ŵyl ac ar daith. Dychwelodd yn ddiweddarach i Glyndebourne i ddirprwyo rhannau Olga yn Eugene Onegin ac Annina yn La Traviata.

Mae uchafbwyntiau ei repertoire Cymraeg a’i gwaith yn y Gymraeg hefyd yn cynnwys perfformiad prin o Serch yw’r Doctor gan Arwel Hughes, a chanu rôl Lisette gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gan adlewyrchu ymhellach ei hymrwymiad i hyrwyddo a chefnogi cerddoriaeth Gymreig.

 

Ymhlith uchafbwyntiau operatig eraill mae Tisbe yn La Cenerentola i West Green House Opera, ei debut yn Sbaen fel Olga yn Eugene Onegin gydag Opera Valladolid, Ail Foneddiges yn The Magic Flute gyda Longborough Festival Opera, cwmpasu rôl Eduige yn Rodelinda i English National Opera, a’r rôl deitl yn Carmen yn y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru gydag Opra Cymru. Bu hefyd yn cwmpasu rôl Hel yng ngwaith Gavin Higgins The Monstrous Child yn The Royal Opera and Ballet.

“Welsh mezzo Sioned Gwen Davies was the Abbess, a role that represents the discipline, order and austere routine of the convent, a role, one might say, that represents the antithesis of self-expression.  Her music is authoritative and controlled, but Puccini is always expressive.  A far cry from The Seal Woman title role in which I saw her at the Perth Festival two years ago, but a great chance to hear that voice again.  Super.”

Edinburgh Music Review

Er bod Sioned yn mwynhau perfformio opera, mae hi hefyd yn artist cyngerdd a siambr ymroddedig. Mae wedi ymddangos gyda La Serenissima yng Ngŵyl Faróc Valletta ym Malta ac wedi teithio gydag Ensemble Cymru. Mae ei repertoire cyngerdd yn cynnwys Voices gan Henze yn y Barbican Centre, y solo alto yn Les Noces gan Stravinsky yn LSO St Luke’s, Messiah Handel yn Sweden, Serenade to Music gan Vaughan Williams gyda Graham Johnson, Sea Pictures ac The Music Makers gan Elgar, Requiem Mozart, Stabat Mater Dvořák, a nifer o weithiau mawr eraill ar draws y DU.

Mae gan Sioned gysylltiad dwfn â thraddodiad yr Eisteddfod, ar ôl mwynhau cryn lwyddiant ar lwyfannau cenedlaethol a lleol yn ystod ei blynyddoedd cynnar fel cantor ifanc. Yn enillydd cystadleuaeth Canwr Cymru ac yn gynrychiolydd BBC Canwr y Byd Caerdydd, sefydlodd ei hun yn dalent amlwg ar ddechrau ei gyrfa. Heddiw, mae’n parhau i gefnogi’r traddodiad hwn fel beirniad mewn Eisteddfodau, gan rannu ei phrofiad proffesiynol a’i hangerdd dros ganu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gantorion.

Yn ogystal â’i gyrfa berfformio, mae Sioned yn athrawes ganu ymroddedig yn Glasgow, gan gynnig hyfforddiant lleisiol i gantorion o bob lefel. Mae ei haddysgu’n deillio’n uniongyrchol o’i bywyd ar lwyfan yr opera, gan gyfuno techneg broffesiynol, dealltwriaeth berfformio, ac agwedd gefnogol a phersonol. P’un a ydych yn ddechreuwr, yn fyfyriwr, neu’n gantor proffesiynol, mae Sioned yn cynnig gwersi canu yn Glasgow sy’n ymarferol, yn ysbrydoledig, ac wedi’u teilwra i bob llais unigol.